Skip to main content

This job has expired

Principal Structural Engineer

Employer
Bridgend County Borough Council
Location
Bridgend (Pen-y-bont ar Ogwr)
Salary
£44,863 - £45,859
Closing date
31 Mar 2021

View more

The Engineering Design Section is based at the main Bridgend County Borough Council Civic (BCBC) Offices in the heart of Bridgend Town Centre.

The office benefits from very good transport links. It is 5 minutes on foot from the main bus station, 10 minutes on foot from the main line railway station and 10 minutes by car from the M4 motorway. BCBC operates a subsidised car parking scheme for the local parking facilities in and around the town centre.

Bridgend Town Centre has a large variety of shops, supermarkets, banks, restaurants and the main post office which can be useful for day to day transactions during lunchtime. Bridgend leisure centre is conveniently located only 5 minutes from the offices and regularly used by BCBC staff. BCBC operates a flexible working model to meet the demands of a modern day lifestyle; there is a generous holiday entitlement which may be supplemented with the option to purchase additional leave and an above average pension contribution.

The Engineering Design Section has several Principal Engineers experienced in highways, project management and contract administration. There are currently three Engineers, one Technician and two Inspectors. Our work varies from municipal engineering, civil engineering, structural design, demolitions and inspections. The office uses the latest 3D design software and we have invested in high spec computers for our future IT needs. All team members are fully supported in their development and undergo a mandatory annual appraisal to set business objectives and individual learning targets which are monitored. BCBC with RCT and Merthyr are part of a joint venture company with Capita Consultants called REDSTART. REDSTART supports and enhances BCBC’s in-house delivery capability. Our in-house clients include Regeneration, Waste Management, Education, Property, Network Management and Transportation. The Engineering Design Section is structured to operate with a trading account and is self-funded through the commissions it receives and projects it delivers.

If the work life balance orientated culture of BCBC and the Engineering Design Section attracts your interest, we would welcome your application.

We are seeking an experienced principal structural engineer to work within our Engineering Design Section. The post holder will be expected to deliver a variety of projects in the fields of building structures, highway structures design and undertake the associated preparation of drawings and contract documents.

This is a career opportunity for the right candidate to join a team operating in a multi-disciplined service that provides technical support and advice to a range of internal and external clients.  

The successful applicant should have a progressive and versatile attitude, and be flexible in their approach.  The role will require the supervision of staff within the design team, primarily concerned with building structures/highway structures design but not necessarily limited to those areas of engineering.

IMPORTANT

Applicants MUST comprehensively demonstrate their experience and how it meets the job description and person specification criteria for consideration to the interview stage. Short or brief answers will NOT assist the evaluation process. The applicant MUST provide sufficiently detailed responses.

 

Y Gyfarwyddiaeth Cymunedau
Prif Beiriannydd – Strwythurol
£44,863 - £45,859

Mae'r Is-adran Dylunio Peirianneg wedi'i lleoli ym mhrif Swyddfeydd Dinesig Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (CBSP) yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae'r swyddfa yn cael budd cysylltiadau trafnidiaeth da. Mae'n 5 munud ar droed o'r brif orsaf fysiau, 10 munud ar droed o'r brif orsaf drenau a 10 munud yn y car o draffordd yr M4. Mae CBSP yn gweithredu cynllun parcio ceir ar gyfer y cyfleusterau parcio lleol yng nghanol y dref ac o'i hamgylch.

Mae gan ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr amrywiaeth mawr o siopau, archfarchnadoedd, banciau, bwytai a'r brif swyddfa'r post a all fod yn ddefnyddiol ar gyfer trafodion o ddydd i ddydd yn ystod amser cinio. Mae canolfan hamdden Pen-y-bont ar Ogwr wedi'i lleoli'n gyfleus 5 munud yn unig o'r swyddfeydd ac mae'n cael ei defnyddio'n rheolaidd gan staff CBSP. Mae CBSP yn gweithredu model gweithio hyblyg i fodloni gofynion ffordd fodern o fyw; ceir cynllun hawl i wyliau hael a gellir ychwanegu at hyn gyda'r opsiwn o brynu gwyliau ychwanegol a chyfraniad pensiwn uwch na'r cyfartaledd.

Mae gan yr Is-adran Dylunio Peirianneg sawl Prif Beiriannydd sy'n brofiadol ym maes priffyrdd, rheoli prosiect a gweinyddu contract. Ar hyn o bryd mae tri Pheiriannydd, un Technegydd a dau Arolygydd. Mae ein gwaith yn amrywio o beirianneg drefol, peirianneg sifil, dylunio strwythurol, dymchweliadau ac arolygiadau. Mae'r swyddfa'n defnyddio'r feddalwedd dylunio 3D ddiweddaraf ac rydym wedi buddsoddi mewn cyfrifiaduron o safon uchel ar gyfer ein hanghenion TG yn y dyfodol. Mae'r holl aelodau tîm yn cael eu cefnogi'n llawn yn eu datblygiad ac yn cael arfarniad blynyddol gorfodol i bennu amcanion busnes a thargedau dysgu unigol sy'n cael eu monitro. Mae CBSP gyda RhCT a Merthyr yn rhan o gwmni menter ar y cyd gydag Ymgynghorwyr Capita o'r enw REDSTART. Mae REDSTART yn cefnogi ac yn gwella gallu CBSP i gyflawni'n fewnol. Mae ein cleientiaid mewnol yn cynnwys Adfywio, Rheoli Gwastraff, Addysg, Eiddo, Rheoli Rhwydwaith a Chludiant. Mae'r Is-adran Dylunio Peirianneg wedi'i strwythuro i weithredu gyda chyfrif masnachu ac mae'n hunanariannu drwy'r comisiynau mae'n eu cael a'r prosiectau a gyflwynir.

Os yw diwylliant cydbwysedd bywyd a gwaith CBSP a'r Is-adran Dylunio Peirianneg yn ennyn eich diddordeb, byddem yn croesawu eich cais.

Rydym yn chwilio am brif beiriannydd strwythurol profiadol i weithio yn yr Is-adran Dylunio Peirianneg. Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd gyflawni amrywiaeth o brosiectau ym maes strwythurau adeiladu, dylunio priffyrdd a strwythurau ac ymgymryd â'r gwaith o baratoi lluniadau a dogfennau contract cysylltiedig.

Mae hwn yn gyfle gyrfa i'r ymgeisydd cywir ymuno â thîm sy'n gweithredu mewn gwasanaeth amlddisgyblaeth sy'n darparu cymorth a chyngor technegol i amrywiaeth o gleientiaid mewnol ac allanol. 

Dylai'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar agwedd flaengar a hyblyg, a bod yn hyblyg o ran ei ddull.  Bydd y rôl yn ei gwneud yn ofynnol goruchwylio staff yn y tîm dylunio, sy'n ymwneud yn bennaf â dylunio strwythurau adeiladau/priffyrdd ond nid o reidrwydd wedi'u cyfyngu i'r meysydd peirianneg hynny.

Get job alerts

Create a job alert and receive personalised job recommendations straight to your inbox.

Create alert